P-04-455 : Achub adran achosion brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip

Geiriad y ddeiseb:

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu israddio neu gau’r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol i Lanelli a’r cymunedau lleol a rhaid i’r gymuned weithredu i achub ein Hadran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Llofnodwch y ddeiseb hon i atal y gwasanaeth hanfodol hwn rhag cau, ac i sicrhau nad yw bywydau yn y fantol o ganlyniad i gam o’r fath.

 

Prif ddeisebydd: Angharad Howells

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

Nifer y llofnodion: 1038